DYN Y BOCSYS ADAR: Y Siarc yn trafod gwaith yr artist Carwyn Evans gyda’r dyn i hun.
Ma’n siwr fod na lot o bobol yn adnabod dy waith o’r darn
Unlliw y bocsys adar. Odi fe ‘di bod yn beth da i dy yrfa fel
artist neu wyt ti’n cal dy adnabod fel y boi bocsys adar?
‘Wi’n dal yn cal ‘y’n labeli fel boi y bocsys
adar, ma’n siwr achos bod y darn yn sefyll mas eitha tipyn, a
oedd pobol yn i ddeall e. Oedd e’n bwnc eitha llosg ond mi oedd
y darn yn flwydd oed pan gath e i ddangos yn y ‘Steddfod, achos
gath ei ddangos yn Llydaw cyn hynny. ‘Na beth dwi’n gweld
yn dda am y ‘Steddfod oedd bod dim rhaid i fi egluro i bobol nol
gartref be o fi’n wneud. O’r blan oedd e jyst fel ‘ma
Carwyn yn potsian da brwsys a phaent yn Gaerdydd’ ond o arddangos
ar lefel cenedlaethol fel na mi oedd e’n dda bod gymaint o bobol
di weld e. Y peth o ni’n gal fwyaf mas ohono fe oedd y ffaith
fod pobol yn deall beth o ni’n wneud. Oedd y darn yn sefyll ar
ben i hunan.
Mi oedd y darn yn wleidyddol gryf ond wyt ti’n berson
gwleidyddol?
I ryw radde, ma isie lot o egni i fod yn wleidyddol, a falle na beth
sy’n eitha diddorol o ran celf. I ti’n gallu gwneud pwynt
gwleidyddol yn dy waith di. Ond o ni’n gweld y peth cryf am y
darn Unlliw oedd y mod i heb wneud datganiad am y gwaith, cwestiynu
o ni, oedd e lan i bobol erill benderfynu beth o nhw’n feddwl.
Roedd yn rhaid i nhw wneud ni achos doedd dim datganiad drws nesa iddo
fe gyda’n syniadau i am y pwnc.
![]() |
|
Ffotograff: Illtud Llur Dunsford
Os awn ni nôl cwpwl o flynyddoedd, un o’r
darnau mwyaf personol oedd cyfres o luniau o Bolytunnel dy Dad.
Beth yw dy deimladau di am y gwaith?
Does dim lot o bobol yn gofyn i fi am y’n ffotograffiaeth
i, does dim lot o bobol yn cysylltu na da fi. Ma lot o bobol
yn y byd celfyddydol yn gwerthfawrogi fe fwy dwi’n meddwl.
O ni wastad yn arfer dogfenni, bod tro o ni’n mynd adref
o ni’n tynnu lluniau o’r polytunnel, gwario ffilm
neu ddau ffilm na, o ni jyst yn edrych i weld shwd oedd Dad
jyst yn gosod cyllyll ar ben polion neu shwd oedd pethe’n
newid. Ma da fi gasgliad nawr o rhyw chwech mlynedd o luniau.
Dwi’n dal i dreial i wneud e, ond does dim lot di newid
na’n ddiweddar. Ma rhywbeth trist iawn amdanyn nhw, pan
ddechreues i o ni’m yn gweld dim byd trist am y lluniau,
ond oherwydd taw’r ffaith taw polytunnel yw e, oherwydd
bod Dad yn ffarmwr tenant, a dos dim da fe tir i hunan heblaw
am gwpwl o gaeau a bod dim modd adeiladu arnyn nhw. Ma’r
polytunnel ma’n dyst iddo fe’n gweithio, achos na
le ma fe’n gwneud popeth. Y syniad fod y peth yma yna
dros dro, ma fe’n mynd i ddod lawr rhywbryd. Dwi’m
yn meddwl i fod e yn y mhoeni i, ond tase Dad yn cwpla ffermio
mi ddeith y polytunnel yma lawr, ond falle nai gyd sydd da fi.
Fel artist aml-gyfryngol ma na resymeg y tu ôl
i dy waith. Dyw e ddim yn waith darluniadol, ma na feddwl y
tu ôl iddo fe, ond beth sy’n dy yrru di?
Yn ddiweddar dwi di gwneud darnau sy’n fwy personol falle
achos bod y syniad bod yna angen cymdeithasol i wneud gwaith
sy’n ymwneud a chymdeithas. Ma fe dal yn bwysig i fi ond
dwi’n meddwl fod deunydd ar gael i wneud stwff sy’n
lot fwy personol i fi a nheulu i.
Ddechrau’r flwyddyn ges i ngofyn i fod yn rhan o arddangosfa
ar yr Wyddor a fe ges i’r lythyren Rh, a enw’n chwaer
i yw Rhian. Felly wnes i ddarn o frodwaith, gath hi Leaukemia
pan oedd hi’n 4/5 mlwydd oed a wnaeth hi golli i gwallt
hi i gyd. Mi oedd dal gan Mam i gwallt hi wedi iddyn nhw i dorri
fe am y tro cyntaf wedi ‘ny. Wnes i frodwaith o’i
henw hi allan o’r gwallt – pan o ni’n yr ysgol
mi o ni’n arfer gwneud anrhegion bach fel na iddi hi -
mi oedd un crwt ma yn y dosbarth a mi oedd i fam e’n disgwyl,
a mi oedd e moyn cal brawd bach felly wnath e popeth yn las
yn y gobaith o gal brawd. Mi o ni’n meddwl bod rhyw fath
o hud yn perthyn i’r brodwaith yma, wnes i dipyn o nhw
pan oedd y’n chwaer i yn yr ysbyty.
Mi oedd e’n neis taw’r deunyddiau oedd di arwain
at y gwaith yn hytrach na’r syniad. Weithiau y deunyddiau
sy’n arwain y syniad yn hytrach na’r syniad yn rhoi’r
flaenoriaeth.
Pa gyngor sydd da ti i artist ifanc?
Ers gadael coleg dwi di bod yn mynd lawr yr un llwybr, bydde
fe’n neis gwneud arian allan o’r gwaith ond i fi
ddim eisie i’r arian ddod yn ffordd y ffordd i fi’n
gweithio. A hefyd jyst bod yn onest. Un o’r pethe dwi
di ddysgu fwyaf o wneud y cwrs sylfaen a’r cwrs gradd
yw bod yn rhaid i ti fod yn onest ‘da deunyddiau ti dy
hunan a da syniadau dy hunan gymaint a ti’n gallu.
Ma’n siwr dy fod ti ynghanol darn o waith ar
hyn o bryd. Beth yw dy ddarn o waith nesa ti i fod?
Darn yn arddangosfa Identidades ym Mecsico, ma 5 yn cyfrannu
o Gymru a dau yn ‘gyfranwyr o bell’. Mi o ni di
penderfynu’n eitha cynnar ar y gwaith, gan i bod nhw eisie
cynnig ar bapur yn weddol gynnar, cyn i fi fynd mas na. Gan
fod yr arddangosfa i’w wneud a hunaniaeth y dwr, a bod
dwr yn gallu effeithio ar hunaniaeth unigolyn, cymdeithas a
gwlad, mi oedd e’n amlwg taw Tryweryn oedd wedi achosi’r
cynnwrf mwyaf a sydd di cadarnhau hunaniaeth Cymru. Yn llyfr
diweddar o waith y ffotograffydd Geoff Charles ma peth o’i
luniau yn dogfenni Tryweryn, mi oedd un casgliad na o luniau
o’r crwt ma, dwi’m yn siwr be yw i oedran e, Deiniol
Prysor Jones yw i enw, yn mynd ar i dreisycl rownd Treweryn.
O ni’n meddwl fod e’n eitha diddorol fod y syniad
bod ardal yn effeithio ar blentyn neu ar unigolyn a bod i hunaniaeth
e’n newid wrth iddo fe symud o’r pentref. Gwneud
copi’s o’r union feics sydd yn y lluniau mas o glai
dwi am wneud, ond soi’n i tano nhw, felly pan fydd d_r
yn dod mewn i gysylltiad â’r clai mi fydd e’n
ymddatod, gobeithio fydd hynny’n broses hir, fydd e’n
cymryd mis gobeithio. Y syniad yw bod rhywbeth gweledol i gael
da ti i ddechrau a bod dwr yn golchi fe mas.
Illtud Dunsford
Amryw. // Misc.
Wedi'u greu a'i Ddiweddaru gan // Created and Maintained by: Carwyn Evans
© Carwyn Evans 2000 - 2008

