BALED Y BLYCHAU: I WAITH CARWYN EVANS
Daeth cân boblogaidd o'r chwedegau yn syth i'r côf pen welais
y pentwr blychau. Yr unig beth a gofiwn oedd mai 'Little Boxes' oedd
ei henw. Ers yr arddangosfa, diolch i Mary Scamell, ces wybod mai Malvina
Reynolds (1900-78) o San Ffransisco a gyfansoddodd y geiriau fel protest
yn erbyn polisi'r Unol Daleithiau o godi miloedd o dai newydd o ddefnydd
sâl mewn maestrefi ar ôl yr Ail Ryfel Byd. Yn ystod y cyfnod
o chwe wythnos a gefais i gyfansoddi'r cerddi hyn bu'n rhaid i fi ddychwelyd
i'm hardal enedigol yng Ngheredigion i angladdau dwy fodryb. Felly,
roedd y baled yn gyfrwng addas i gyfrannu f'atgofion cynnar â'r
gân ac â phrotest yr artist ifanc, cyfoes Carwyn Evans,
am gynlluniau Cyngor Ceredigion i godi chwe mil a hanner o dai yn y
sir honno.
Cyril Jones, 2003
![]() |
|
+ Unlliw (manylyn//detail)
baled y blychau
(i waith Carwyn Evans)
Ar donfeddi transistorau ein chwedegau ar ei hynt,
fe ddaeth cân ar draws y ’Werydd yn fwy dierth na’r
rhai cynt;
soniai hi am flychau bychain, rheiny’n unffurf ond bob lliw,
wedi’u codi yn ôl ei geiriau, lawr y pant a lan y rhiw.
‘Tici-taci’ oedd eu muriau, ’ta beth yw hynny’n
yr iaith fain,
car wrth garej, lawnt wrth dalcen – dim sôn am fuwch a moch
– na ’whain;
clinigol-lân fywydau’u deiliaid, apeliai’n fawr at
egin-fardd,
oedd bryd hynny’n ‘gwneud ei fusnes’ mewn sied sinc
ym mhen draw’r ardd.
Cerddem â’n teclynnau’n dalog ar ein ’sgwyddau’n
dynn wrth glust,
rhwng Cartrefle a Thyˆ Heter – hewl y gwifrau ffôn
a’u pyst.
Roedd cloddiau’r adar ar bob ochor, ond eto i gyd,
byddar oeddem ni i bopeth ond y gân o ben draw’r byd.
Llithro wnaeth ei nodau i gadw, fel feinyl du rhwng llewys cof
aethom ninnau’n ôl i bori ein bywydau gwledig, dof.
Ond i lannau Sir ’Berteifi, rowlio i mewn wnaeth teid sawl grant.
Fel epil yr hen gân yn gwmws – er mwyn dod mla’n,
fe es i bant
i goleg blychog ar fryn uchel, tyrau ifori ein dysg,
lle caem gwato’n gwahaniaethau mewn recordiau, meddwdod, gwisg.
Wedi pwl colegol ddwli, codais dyˆ i deulu’n nyth –
brau ei muriau – mewn sir arall, cyn i’r storm ei droi o
’whith.
Fis yn ôl dychwelyd wnes i ar angladdol wyˆs oedd wers.
Rhwng Cartrefle a Thyˆ Heter wrth fynd yn slo tu ôl i hers,
lle bu’r gân yn pwno’n pennau – wele flychau
tai go-iawn;
car wrth garej, lawnt wrth dalcen, dim clawdd – a’r lle
buon ni’n chwarae’n llawn.
’Whap wedyn, gwelais innau’r blychau, yn un domen o chwe
mil;
wfftiais nhw fel gweledigaeth rhyw artist ifanc hanner-chwil.
Ond cofiais am y gân broffwydol, na ddeallwn moni hi
ac fe drodd y domen wedyn yn anheddau byw i fi,
lle daw adar lu i glwydo ac i weithio’u nythod clyd,
eu cân nhw’n groch ymhobman – tra bo cân hen
gloddiau’n fud.
A’r orymdaith eiriau yma ryˆch chi ynddi, yn llawn parch,
yn dilyn blwch o dderi’r cloddiau, sy ’run siâp, bron
iawn, ag arch.
Cyril Jones, 2003
Amryw. // Misc.
Wedi'u greu a'i Ddiweddaru gan // Created and Maintained by: Carwyn Evans
© Carwyn Evans 2000 - 2008

