Ca' Shell
Gosodwaith
Ffotograff print ffibr mewn ffrâm; clai wedi'i danio o ddeunydd ddarganfuwyd a phroseswyd; gwrthrych llestr pridd slip-gastiwyd; tan-wydredd; ffon acrylig; pren haenog; cnu.
2012

Mae Ca' Shell yn arddangosfa sy'n dwyn ynghyd rhai o bryderon yr artist ynghylch syniadaeth o le, diwylliant, celf a dadleoliad, pob un ohonynt yn estyn o ffotograff o du mewn i dwnel polythen, ddefnyddir gan ei dad, ffermwr tenant yng nghorllewin Cymru, fel modd o ddarparu lloches dros dro ar gyfer y stoc yn ystod tymor yr wyna.

Yn erbyn y ddelwedd yma, dynodydd grymus wrth edrych ar y gweithiau eraill, caiff gwrthrychau cerfluniol eu gosod mewn gofod sy'n pendilio rhwng realaeth amaethyddiaeth heddiw ac awyrgylch oriel ciwb gwyn.

Mae'r defnydd a throsglwyddiad deunyddiau yn bwysig i Evans fel iddo nodi:
"Mae'r clai i mi gloddio fy hun yn ei gyflwr amrwd, yn syth o'i darddle yn llawn sylwedd cysefinol a hynafol sy'n gallu dweud gymaint am dir, mater, cloddio a hanes. Gan iddo ddod o dir fy nhad, mae hefyd yn llawn ideolegau - o'r famwlad - ac o'r herwydd, yn rhan annatod o ddiwylliant, Credaf y syniad fod daear / tir yn gyffredinol yn gallu bodoli fel cludwr presenoldeb y bobl a'r diwylliant sy'n trigo arno."

Wrth gloddio, pecynnu, cludo, prosesu, siapio a thanio deunydd clai mae Evans yn ceisio glanhau'r ideolegau hyn fel y gall y deunydd greu ei iaith eu hun a siarad o'r newydd.

Gyda'i gychwyniad o drothwy gwahanol mae'r ffurf silindrog yn tarddu o fectorau cyfrifiadurol 3D yn hytrach na deunydd ffisegol. Cynhyrchwyd drwy brototeip-cyflym, ei gastio mewn priddwaith a'i ymdrochi gyda than-wydredd melyn ac mae iddo elfen ddirgelwch swreal sy'n cynnig rhyw eiliad o heulwen - cyfle i wenu - i mewn ac ymhlith y pwysau a'r cyfrifoldeb o warchodaeth.

Drwy wneud cyfeiriad at gerfluniaeth finimalaidd enwog Judd mae daliwr agored Evans yn ymostwng i'w ffurf fwyaf syml ond mae'r cnu newydd eu cneifio o ddiadell ei dad yn ein hatgoffa o fywioldeb y presennol gyda'r wefr yn ymarfer Evans yn trafod colled ac ennill, dal yn ôl ac ymollwng; dyhead a diflastod.

Ca' Shell
Installation
Framed B&W fibre print photograph; fired clay from unearthed and processed material; underglazed slip-cast earthenware object; acrylic rod; plywood; fleece.
2012

Ca' Shell is an exhibition that brings together some of the artist's concerns surrounding notions of time, place, culture, art and displacement, all of which extend from a single photograph of the interior of a polytunnel, used by his father, a tenant farmer, as means of providing temporary shelter to stock during lambing.

Against this image, and potent signifier to viewing the other works, sculptural objects rest in a space that oscillates between the reality of present day agriculture and the white cube gallery environment.

The use and translation of materials is important to Evans as he states:
"The clay that I unearth myself in its raw state, straight from source, is such primeval and primordial matter and speaks so much about land, matter, excavation and history. Since this comes from my dad's land, it's also loaded with ideologies - of mother/fatherland - and as such, is inextricably linked with culture. I believe the idea of earth/land generally is seen as being a carrier of the presence of people and the culture that inhabits it."

By digging, packaging, transporting, processing, shaping and firing the clay matter, Evans attempts to cleanse these ideologies so that the material can build its own language and speak anew.

Starting from a different threshold a cylindrical form originates from 3D computer vectors rather than physical material. Produced by being rapid-prototyped, cast in earthenware and bathed in yellow underglaze it has a surreal element of mystery which offers up that moment of sunshine - a chance to smile - in and among the weight of custodianship.

By referencing Judd's renowned minimalistic sculpture Evans' open container is reduced to its simplest form but the newly shorn fleeces from his father's flock remind us of the vitality of the present and the charge in Evans' practice that speaks of loss and gain; holding back and letting go; desire and disgust.